Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
15 Medi 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6563
------
Datganiad gan y Llywydd
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl
ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, penderfynodd y Llywydd bod
Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu
pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Dywedodd y Llywydd hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod
y cyhoedd wedi cael eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod
Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Cafodd y cyfarfod ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn
cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cyhoeddodd y Llywydd wedyn, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip gwestiynau 1-4 a 6-7 am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau. Ni ofynnwyd cwestiwn 5.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.53
Am 15.12, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod, ei atal dros dro gan y Llywydd tan 15.25.
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion
Dechreuodd yr eitem am 15.25
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu'r Gaeaf
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Am 17.05, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd tan 17.11.
5 Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai, Tlodi a Chymunedau
Dechreuodd yr eitem am 17.11
6 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
Dechreuodd yr eitem am 17.56
Daeth y cyfarfod i ben am 18.50
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Medi 2020